Y Gymrodoriaeth Adrodd Straeon Natur a Chadwraeth yng Nghymru

Y Gymrodoriaeth Adrodd Straeon Natur a Chadwraeth yng Nghymru

Wedi’i lansio mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r gymrodoriaeth hon yn gyfle unigryw i adroddwyr straeon ifanc yng Nghymru i ddatblygu a rhannu straeon am gadwraeth sy’n creu argraff. Dros gyfnod o dri mis, bydd y cymrodorion yn derbyn:

  • Mentora gan adroddwyr straeon cadwraeth a natur mawr eu bri.

  • Offer o radd broffesiynol, y cant ei gadw ar ôl y gymrodoriaeth.

  • Mynediad i ddeunydd dysgu a chyfarwyddiadol.

  • Hyfforddiant mewn gweithdy deuddydd yng Nghymru, yn cynnwys datblygu’r prosiect a defnyddio’r adnoddau adrodd stori.

  • Telir costau prydau bwyd, llety a theithio i’r gweithdy a’r arddangosfa derfynol yn llawn.

Penllanw’r rhaglen yw arddangosfa gyhoeddus lle bydd y cymrodorion yn cyflwyno eu gwaith i’r gymuned gadwraeth yng Nghymru, i ymgyrchwyr lleol ac i’r cyhoedd yn ehangach. Bydd yr arddangosfa derfynol yn gyfle i gymrodorion feithrin deialog am gadwraeth ac adrodd straeon yng Nghymru wrth arddangos a dathlu eu gwaith.

Cwestiynau Cyffredin